I

niciativa para la

R

ecuperación del

I

dioma

N

áhuat

~International

 

Ymgyrch i

 

adennill

 

yr iaith

 

Nawat

IRIN-International     

Croeso!

 

Home page

 

Nawat:

v      The Nawat language

v      Grammar

v      Vocabulary

v      Conversation

v      Texts

v      Song

 

Who we are:

v      IRIN

v      TIT

v      IRIN-International

 

Join us!

v      We need you!

v      Come in and say hello!

v      Visitors’ comments

v      Write to us

 

The Nawat language recovery initiative:

 

v      The recovery plan

v      Nawat goes to school

v      Inside NNT

v      Nawat for adults

v      Linguistic work on Nawat

v      Other objectives

 

Shitechpalewi!

Rydyn ni angen eich help!

 

Mae’r wefan hon yn adrodd am iaith frodorol a siaredir yn El Salvador yng Nghanol America ac am ymdrechion i’w hachub.

 

Siaredir yr iaith Nawat gan ychydig gannoedd o bobl, neu efallai dim ond rhai dwsinau: mae’n annodd gwybod o’r herwydd nad oes rhifau dibyniadwy. Pobl o’r enw Pipil yw’r siaradwyr. Mae rhan fwyaf o’r rhai sy’n dal i fedru’r iaith yn hen. Mae yna rai ychydig o Pipiliaid iau sydd wedi dysgu’r rhywfaint o’r iaith gan eu rhieni neu neiniau a theidiau ac sydd am gydweithio i gadw’r hen iaith a ‘r dywylliant yn fyw.

 

Can mlynedd yn ôl yr oedd digon o fywyd o hyd yn yr Nawat, a oedd yn cael ei siarad gan y fwyafrif mewn ardal fawr o orllewin El Salvador. Ond mae’r Pipiliaid wedi dioddef gormes mor ofnadwy, lle y cawson llawer o bobl ddiniwed eu lladd, fel canlyniad polisi swyddogol y llywodraeth, fel y daeth eu hunaniaeth fel Pipil yn fygwth i’w bodolaeth gorfforol. Felly, dysgodd y Pipiliaid i guddio eu hunain neu i osgoi pob arwydd allanol o’u arferion – fel defnydd gwisg draddodiadol neu eu hiaith frodorol – fel strategaeth i ddal yn fyw. Mae hyn yn egluro pam mae mor ychydig o bobl yn dal i siarad Nawat heddiw, ond hefyd yn esbonio sut mae hi’n bosibl bod yna rai bobl sydd yn cofio’r iaith ond yn gwrthod dweud. Mae amserau wedi newid erbyn hyn, medden’ nhw. Serch hynny, mae cadw yn dawel am eu hunaniaeth frodorol a’u harferion wedi mynd yn ymddygiad barhaol gan lawer o’r Pipiliaid.

 

Dyna ymddygiad, fel mae’n digwydd, sydd yn arwain tuag at farwolaeth eu hiaith, o barhau. Ymhlith y Pipiliaid a phobl eraill o’u cwmpas hefyd, nid oes llawer o bobl yn gwerthfawrogi hunaniaeth ac iaith y Pipiliaid. I’r Pipiliaid eu hun, gan fod y rhan fwyaf yn eithafol dlawd, y trafferth yw nad oes dim gwerth economaidd mewn siarad yr iaith ychwaith. Yn ogystal, mae siarad Nawat yn tueddu awgrymu diffyg addysg hefyd, gan na fedru rhan fwyaf y siaradwyr ddarllen ac ysgrifennu.

 

Mae ymuno’r iaith Nawat gyda chyfleau addysgol yn syniad hollol newydd i Pipiliaid. Yn y gorffennol, ni fu sôn am hunaniaeth Pipil fel rhywbeth manteisiol a chadarnhaol, a’r Nawat fel rhan bwysig o’r hunaniaeth yna.

 

Croeso i wefan newydd IRIN-International!

 

Heddiw mae ymdrech bwysig ymlaen i newid y sefyllfa hon cyn iddi fod yn rhy hwyr. Ar y wefan yma gellwch ddarllen am yr iaith Nawat, y bobl sy’n cymryd rhan yn yr ymdrech i adennill yr iaith, a beth maent yn ei wneud. Croeso i ddod i mewn ac edrych o gwmpas!

 

Cewch yma gyfle i ddarllen mwy am gefndir yr iaith, dysgu rhywfaint am ei gramadeg a’i geirfa, a dod i adnabod y Nawat yn well drwy ddeialogau hawdd, testunau byr a hyd yn oed cân a ellwch ei chlywed wedi’i chanu gan y ddynes a gyfansoddodd hi.

 

Gobeithio y fyddwch yn darllen hefyd am yr Ymgyrch i Adennill yr Iaith Nawat (IRIN) a Swyddfa’r Iaith Nawat (TIT). Cynigir y wefan hon gan grwp ryngwladol sy’n cefnogi’r ymgyrch o’r enw IRIN-International.

 

Mewn adran arall o’r wefan gellwch ddarllen am waith pwysig o flaid y Nawat sydd ymlaen, gan gynnwys prosiect prifysgol i gychwyn dosbarthiadau Nawat mewn ysgolion a chynyrchu llyfrau testun i’r pwrpas; rhaglen arall i gynnig cyrsiau Nawat i oedolion mewn cymunedau Pipil; datblygiadau diweddar mewn astudiaethau ieithyddol Nawat; yn ogystal â nodau eraill o fewn cynllun adennill iaith cyfan.

 

Eich tro chi i helpu!

 

A dyma ni’n gofyn ichi am eich help. Mae’r prosiectiau yma i gyd yn galw am rywfaint o adnoddau. Nid yw’r anghenion yn fawr: mewn gwlad dlawd mae ychydig o arian yn mynd yn bell. Ond yn anffodus, mewn gwlad dlawd mae’n anodd dod o hyd i hyd yn oed ychydig o arian. Mae rhai o’r prosiectiau yma yn derbyn rhywfaint o gefnogaeth ariannol leol ond dim digon i gwblhau’r cynllun am 2004. Felly, rydym angen eich help er mwyn helpu i gadw’r Nawat yn fyw a dal ymlaen gyda’r cynllun presennol i adennill yr iaith.

                                                                                                       

Os hoffech ofyn am fwy o wybodaeth neu awgrymu rhywbeth, ysgrifennwch atom os gwelwch yn dda. Hefyd gellir gadael negeseuon fel ymwelwr a gadael inni eu dangos i’r darllenwyr.

 

Pal tinejmachnemikan tik tutechan, tikinmachtikan ne tukujkunew!

‘Dysgwn i'n plant i fyw mewn heddwch yn ein gwlad!’

 

Diolch am ymweld!

 

Pots llegir aquesta pàgina en

català.

 

You can read this page in

English.

 

Puedes leer esta página en

español.

 

Orrialde hau

euskaraz

irakur dezakezu.

Podes ler esta páxina en

galego.

 

Gallwch ddarllen y tudalen yma yn

Gymraeg.

 

Tiweli tikita ini iswat tik

Nawat.

 

 

© 2004 Alan R. King, Monica Ward and IRIN.